Lleoliad:
Hybrid - Ystafell Bwyllgora 4 Tŷ Hywel a fideogynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 8 Rhagfyr 2022
Amser:
09.16 -
12.29
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13058
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jayne Bryant AS (Cadeirydd) James Evans AS Laura Anne Jones AS Ken Skates AS Sioned Williams AS |
Tystion: |
Philip Blaker, Cymwysterau Cymru David Jones, Cymwysterau Cymru Dr Laura Arman, Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru (WISERD) Dr Rhian Barrance, Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru (WISERD) |
Staff y Pwyllgor: |
Naomi Stocks (Clerc) Tom Lewis-White (Ail Glerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Michael Dauncey (Ymchwilydd) Rosemary Hill (Ymchwilydd) Sian Hughes (Ymchwilydd) Rebekah James (Ymchwilydd) Sian Thomas (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.
1.2 Cafwyd
ymddiheuriadau gan Buffy Williams AS. Ni chafwyd dirprwy ar ei
rhan.
2 Craffu ar Adroddiad Blynyddol Cymwysterau Cymru 2021 - 2022
2.1 Holodd y Pwyllgor Gymwysterau Cymru ynghylch ei Adroddiad Blynyddol.
2.2 Cytunodd y Cadeirydd i unrhyw gwestiynau heb eu gofyn gael eu hanfon ar gyfer ymateb ysgrifenedig.
3 Papurau i'w nodi
3.1 Cafodd y
papurau eu nodi.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
4.1 Derbyniwyd y
cynnig.
5 Cymorth Iechyd Meddwl mewn Addysg Uwch - trafod y materion allweddol
5.1 Trafododd y Pwyllgor y materion allweddol. Bydd adroddiad drafft yn cael ei drafod mewn cyfarfod yn y dyfodol.
6 Trafod blaenraglen waith y Pwyllgor
6.1 Trafododd yr
Aelodau y flaenraglen waith a chytunwyd i ysgrifennu at Lywodraeth
Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am faterion amrywiol yn
ymwneud â theithio gan ddysgwyr; y gweithlu gofal plant, a
cham-drin rhywiol. Cytunwyd hefyd ar ba feysydd yr hoffent weld
rhagor o waith cwmpasu pellach ynddynt, a oedd yn cynnwys mynediad
i blant a phobl ifanc anabl; ac ar gostau byw.
7 Gweithgareddau'r Pwyllgor - diweddariad ar lafar
8.1 Gan fod amser yn brin, gohiriwyd yr eitem hon i'w thrafod yn y cyfarfod nesaf.
8 Sesiwn friffio gan Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru (WISERD)
8.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio gan WISERD ar y gwaith y maent yn ei wneud ar yr astudiaeth aml garfan o ysgolion. Trafodwyd ffyrdd y gall y Pwyllgor fod yn rhan o'r gwaith hwn.